Hanes Sefydlu Fflach

Dechreuwyd Recordiau Fflach gan y brodyr Richard a Wyn Jones ym 1981. Roedd y ddau yn aelodau o’r grŵp don newydd/pync Ail Symudiad. Ar y dechrau dim ond label oedd Fflach yn hyrwyddo grwpiau roc, pop a ska, ond yn yr wythdegau canol ychwanegwyd stiwdio 8-trac, ac yn sgil hyn recordiwyd mwy o artistiaid, a mentro mewn i’r meysydd corawl, gwerin a chanu gwlad.

Nes ymlaen ffurfiwyd y label fflach:tradd, label i gerddoriaeth traddodiadol Gymreig, ac yn 2000 ffurfiwyd Rasp, label indie/dawns gan recordio, ymysg eraill, Swci Boscawen, Texas Radio Band a Vanta.

Yn 2021 collwyd y ddau frawd o fewn misoedd i’w gilydd, gan adael dyfodol Fflach yn y fantol. Ond o’r tristwch daeth egni newydd gyda ffurfio Fflach Cymunedol. Nod Fflach Cymunedol yw i barhau ethos a gwaith Fflach Cyf fel hwb Cymreig a chreadigol yn Aberteifi, er mwyn i gerddorion lleol o bob math allu parhau i recordio a rhyddhau cerddoriaeth.

Pam achub/prynu?

Sefydlwyd Fflach Cyf gan Richard a Wyn yn eu delwedd DIY a pync nhw. Y nod oedd mynd ati i hyrwyddo a recordio bandiau fel nhw, ond hefyd artistiaid lleol i ardal Aberteifi. Mae’n wasanaeth hanfodol, yn golygu bod y gymuned leol yn gallu rhoi eu hunain ar y map cerddorol, yn cael cyfle i recordio eu gwaith, ac yn hwb creadigol yn y dref. Dyma yw nod Fflach Cymunedol hefyd, i gario’r ethos wreiddiol dros sefydlu Fflach ymlaen i 2024 a thu hwnt.

Dyfodol

Byddwn yn ail-wampio’r label; yn dal i edrych am dalentau newydd, ond gyda ffocws penodol ar ryddhau cerddoriaeth gan artistiaid a bandiau newydd, gan fudiadau, ysgolion, sefydliadau, unigolion a grwpiau lleol. Byddwn yn cynnig gwasanaeth unigryw, a ffordd radical o roi llais i’r gymuned leol. Mae’r cyfnod yma wedi dechrau’n barod gyda Mattoidz yn dod yn ôl i’r label, a’r bandiau Lafant a Dewin yn paratoi i ryddhau cerddoriaeth.

Efallai yn y pen draw byddwn yn symud Fflach Cymunedol i stiwdio newydd sbon yng nghanol Stryd Fawr Aberteifi, yn Festri y Tabernacl. Yma sefydlwyd Fflach yn wreiddiol ym 1981.

Buddio

Nid cerddorion lleol yn unig fydd yn buddio o fodolaeth Fflach Cymunedol. Byddwn yn gweithio gydag unrhywun sydd â rhywbeth i’w ddweud! Mae’r ‘Cymunedol’ yn ein henw yn hollbwysig, a rhoi llais i gymunedau creadigol Cymru bydd ein bwriad.

Dyma gyfle unigryw i ail-ddychmygu sefydliad mor agos at galonnau nifer yn yr ardal, a’i droi yn adnodd i’n gwasanaethu ni fel cymuned, ac yn ddrws agored i Gymru gyfan a thu hwnt ddod i fod yn rhan o’r stori sydd, ar ôl 40ain mlynedd, yn dal i gael ei dweud.

“Dros y degawdau mae Fflach dan arweiniad Rich, Wyn a Kevin wedi gwneud cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth yn Aberteifi a Chymru gyfan a thu hwnt. Ar ôl tristwch enbyd colli y tri ohonynt mae hi yn gyffrous tu hwnt gweld Fflach yn paratoi i droi yn gwmni cymunedol ac yn arloesi eto drwy greu y cwmni recordiau cyntaf yng Nghymru fydd yn eiddo i’r gymuned. Perchnogaeth gymunedol yw’r ffordd ymlaen i bawb ac mae’n wych gweld y diwydiant cerddoriaeth yn camu i’r cyfeiriad yma. Mae hefyd yn dysteb i waith, dylanwad a gweledigaeth Fflach dros y blynyddoedd ac mae’n ysbrydoledig gweld y gwaith yn parhau gyda egni a gweledigaeth gymunedol newydd. Fflach am byth.”

Alun Llwyd, AM/PYST

“Mae Fflach wedi chwarae rhan allweddol yn hanes cerddoriaeth Cymru. Mae’r weledigaeth i ddatblygu Fflach Cymunedol yn gyffrous ac yn hanfodol i’r gymuned leol a’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n edrych ymlaen i ddilyn y datblygiad newydd yma a’r bennod nesaf yn stori Fflach.”

Kev Tame, Oleia

“Dwi’n hynod falch o gynnig fy nghefnogaeth i’r cynllun cyffrous hwn, a fydd yn affaeliad i bawb sy’n ymwneud â cherddoriaeth yn Aberteifi a’r cylch, yn unigolion, grwpiau, corau ac offerynwyr.

Yn ysbryd a brwdfrydedd sylfaenwyr Fflach ac Ail Symudiad, fe fydd Fflach Cymunedol, nid yn unig yn ail-ddechreuad ond hefyd yn barhad o’r gwaith pwysig a gwerthfawr a gyflawnwyd gan Richard, Wyn a Kevin.”

Cleif Harpwood, Edward H Dafis

“Mae’n hynod o gyffrous i glywed y newyddion am Fflach ar ei newydd wedd! Mae hanes y label hollbwysig yma yn anhygoel, ac mae gwaddol Richard ac Wyn dal i’w deimlo drwy Gymru gyfan. Ond mae’n braf nawr cael edrych ymlaen, a gweld beth sydd nesaf i Fflach Cymunedol a’i chymuned. Dyma foment fawr i Gymru gyfan, ond yn foment fwy fyth i fandiau ac artistiaid ifanc. Hir oes Fflach Cymunedol!”

Elan Evans, Rheolwr Bandiau